Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Adroddiad: CLA(4)-11-12 : 21 Mai 2012

 

Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:

 

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r Weithred Penderfyniad Negyddol

 

Dim

 

Offerynnau’r Weithred Penderfyniad Cadarnhaol

 

Dim

 

Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 2.13

 

Offerynnau’r Weithred Penderfyniad Negyddol

 

CLA144 - Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed: 5 Mai 2012.

Fe’u gosodwyd: 9 Mai 2012.

Yn dod i rym ar: 1 Mehefin 2012

 

Offerynnau’r Weithred Penderfyniad Cadarnhaol

 

CLA142 - Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Cadarnhaol.

Fe’i gwnaed:  2012

Fe’i gosodwyd: Heb ei nodi

Yn dod i rym ar: 6 Mehefin 2012

 

CLA143 - Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Cadarnhaol.

Fe’i gwnaed: 8 Mai 2012.

Fe’i gosodwyd: 8 Mai 2012.

Yn dod i rym ar: 1 Mehefin 2012

 

 

Busnes arall

 

Gohebiaeth y Pwyllgor

 

CLA124 - The Controlled Waste (England and Wales) Regulations 2012

 

Nododd yr Aelodau ymateb Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 26 Ebrill 2012 ynghylch pwyntiau rhinweddau CLA124 - The Controlled Waste (England and Wales) Regulations 2012. 

 

Ymchwiliadau’r Pwyllgor: Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru

 

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Emyr Lewis o gwmni cyfreithwyr Morgan Cole ac Uwch Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, a’r Athro Dan Wincott, Athro Cyfraith a Chymdeithas Blackwell yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd a Chyd-gadeirydd Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd. Cytunodd yr Athro Dan Wincott i roi gwybodaeth i’r Pwyllgor am y canran o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n astudio’r dimensiwn cyfreithiol Cymreig fel israddedigion a graddedigion.

 

Penderfyniad i gwrdd yn breifat

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42 ((vi) a (ix)), penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod y dystiolaeth a gafwyd hyd yn hyn ar yr ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru ac ymateb Llywodraeth Cymru i ymchwiliad y Pwyllgor i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn neddfau’r DU. 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

21 Mai 2012


Atodiad 1

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(CLA(4)-11-12)

CLA142

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl:  Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012

 

Gweithdrefn:   Cadarnhaol

 

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu, at ddibenion Rhannau 2 a 3 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, na chaiff gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol sydd ar gael mewn ardaloedd awdurdod lleol penodol eu hystyried yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn yr ardal awdurdod lleol honno.

 

Mae’r gorchymyn yn darparu ymhellach y caiff gwasanaethau yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon sy’n cyfateb i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd a ddarperir yng Nghymru eu hystyried yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd at rai dibenion yn Rhan 3 o’r Mesur.

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.3.(ii) gwahoddir y pwyllgor i ystyried a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i’r offeryn hwn gan ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

21 Mai 2012

 

 


Atodiad 2

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

(CLA(4)-11-12)

 

CLA143

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012

 

Mae’r Gorchymyn hwn, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 10 o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932, yn gwahardd cadw mincod yng Nghymru.

 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Materion Technegol: Craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.

 

Rhinweddau: Craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn ar y cam hwn:-

·         di-rymwyd y Gorchymyn blaenorol, yn gwahardd cadw mincod, yn 2004 o ganlyniad i amryfusedd gweinyddol. Felly, ni fu’r gwaharddiad y mae’r Gorchymyn hwn yn ceisio ei gyflwyno mewn grym am tua wyth mlynedd;

 

·         nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw geisiadau i ganiatáu i fincod gael eu cadw yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac nid yw’n rhagweld y bydd cyflwyno’r Gorchymyn hwn yn effeithio ar unrhyw grwpiau yng Nghymru;

 

·         ni fu ymgynghori ar y cynnig hwn a honnir na fu unrhyw ddiddordeb cyhoeddus yn y mater yn ystod y pum mlynedd diwethaf;

 

·         y prif gyfiawnhad dros gyflwyno’r Gorchymyn hwn yw oherwydd gallai peidio â gwneud hynny danseilio’r ymdrechion i gael gwared ar fincod o ardaloedd penodol neu’r effaith gadarnhaol y mae’r gystadleuaeth rhwng mincod a dyfrgwn yn ei gael ar niferoedd y mincod a’u dosbarthiad.

 

Nododd y Pwyllgor yr hyn a ganlyn:

 

·         ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r rheswm dros gyflwyno’r Gorchymyn. Ymhellach, mae’r dystiolaeth sydd ar gael (ar effaith ymarferol y ffaith na fu gwaharddiad am yr wyth mlynedd diwethaf) yn awgrymu bod amheuaeth os oes angen y Gorchymyn yn awr.

·         mae’r Gorchymyn yn cael ei gyflwyno i reoleiddio amryfusedd gweinyddol yn unig yr ymddengys na chafodd unrhyw effaith ymarferol am o leiaf bum mlynedd (wyth o bosibl).

 

Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.3 yn nodi:

·         bod y mater yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad;

·         y gallai’r Gorchymyn arfaethedig fod yn anaddas yn awr ar sail y ffaith bod yr amgylchiadau wedi newid ers y gwnaed Gorchymyn 2004 sydd bellach wedi’i ddirymu.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

21 Mai 2012

 

 

 


Atodiad 3

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

(CLA(4)-11-12)

 

CLA144

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2012

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli rhai darpariaethau yn Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008 (“y prif Reoliadau”) sy’n ymwneud â dynodi parthau perygl nitradau. Mae’r prif Reoliadau yn gweithredu, yng Nghymru, Gyfarwyddeb Cyngor 91/676/EEC ynghylch diogelu dyfroedd rhag llygredd gan nitradau o ffynonellau amaethyddol. Mae’r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ymwneud â’r adolygiad gan Weinidogion Cymru o ddynodi parthau perygl nitradau yn 2009 gan y prif Reoliadau. Gwneir darpariaeth gan y Rheoliadau hyn i Asiantaeth yr Amgylchedd wneud argymhellion i Weinidogion Cymru i gyhoeddi a hysbysu eu penderfyniadau yn dilyn yr argymhellion hynny, ac i apeliadau gael eu gwneud i Weinidogion Cymru a’u penderfynu gan unigolyn a benodir ganddynt.

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd:-

 

Mae’r Rheoliadau hyn (yn rheoliad 9(4)) yn dangos newid sylweddol yn arddull drafftio Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion Cymru. Pan sefydlwyd y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, nodwyd is-baragraffau yn wreiddiol ag (a), (b), (c), (d), (e), ac ati, yn nhestunau Offerynnau Statudol yn y ddwy iaith. Erbyn 2000, cawsant eu nodi ag (a), (b), (c), (ch), (d), ac ati yn y testun Cymraeg gan yr ystyriwyd bod defnyddio’r wyddor Gymraeg yn adlewyrchu statws cyfartal y ddwy iaith yn fwy ffyddlon. Mae’r arfer hwnnw wedi parhau tan nawr. Mae’n golygu, er enghraifft, bod is-baragraff (ch) yn y Gymraeg yn cyfateb i is-baragraff (d) yn y testun Saesneg, tra bod paragraff (d) yn y testun Cymraeg yn cyfateb i (e) yn y Saesneg.

 

Pan gafodd y Cynulliad y gallu i wneud deddfwriaeth sylfaenol drwy fesurau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, penderfynwyd dychwelyd at yr arfer gwreiddiol o ddefnyddio’r wyddor Saesneg ar gyfer yr is-baragraffau yn nhestunau’r ddwy iaith. Y prif eglurhad oedd y byddai Aelodau yn rheolaidd yn cynnig a thrafod gwelliannau i Fesurau drafft, a byddai’n llai dryslyd i gyfeirio at baragraffau (y drydedd lefel isrannu mewn deddfwriaeth sylfaenol) sydd wedi’u labelu yn yr un ffordd yn nhestunau’r ddwy iaith.

 

Parhawyd â’r arfer hwnnw gyda Biliau a gyflwynwyd yn ystod y Cynulliad presennol.

 

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi penderfynu ymestyn yr arfer hwnnw i Offerynnau Statudol, er na ellir eu diwygio yn yr un modd â Biliau. Er bod hyn yn sicrhau dull cyson ym mhob deddfwriaeth sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd, mae’n anghyson â’r arfer gydag Offerynnau Statudol dros y deuddeg mlynedd diwethaf.

 

Tynnwyd sylw’r Cynulliad i’r mater hwn o dan Reol Sefydlog 21.3(ii), sef ei fod o bwys gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

21 Mai 2012

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2012

 

Fel yr adroddwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau y bydd y llythrennau ger yr is-baragraffau yn nhestun Cymraeg offerynnau statudol yn defnyddio’r wyddor Saesneg yn y dyfodol. Y rheswm dros ddefnyddio’r wyddor Saesneg yn nhestun Cymraeg deddfwriaeth ddwyieithog yw ein bod yn credu ei fod yn cael gwared ar y posibilrwydd y ceir dryswch mewn trafodion cyfreithiol ac yn nhrafodion y Cynulliad, yn enwedig pan fydd cyfeiriad at y ddau destun pan geir cyfieithu ar y pryd. Diben y newid yw hybu’r defnydd o destun deddfwriaethol Cymraeg drwy gael gwared ar y rhwystr i’w ddefnyddio’n effeithiol.  

 

Fel y cydnabu yn adroddiad y Pwyllgor, mae’r newid yn sicrhau dull cyson o roi llythyren ger paragraffau ac is-baragraffau ym mhob deddfwriaeth ddwyieithog a ddaw gerbron y Cynulliad gan mai Llywydd y Trydydd Cynulliad a bennodd yr arfer mewn perthynas â Mesurau drafft, a Biliau bellach. Diben y newid yw hybu’r defnydd o destun deddfwriaethol Cymraeg drwy gael gwared ar y rhwystr i’w ddefnyddio’n effeithiol.